Skip to content
Cyfrannwch

Gwybodaeth am ddiogelu

Mae Age Cymru wedi ymrwymo i Ddiogelu oedolion rhag camdriniaeth ac esgeulustra, a diogelu eu hawl i fyw’n ddiogel.

Mae camdriniaeth yn digwydd i filoedd o bobl yng Nghymru bob dydd. Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn dioddef mewn nifer o ffyrdd, yn aml oherwydd ymddygiad pobl maent yn ymddiried ynddynt ac mewn llefydd ble dylent fod yn teimlo’n ddiogel ac yn saff. Mae llawer o wahanol fathau o gamdriniaeth yn cynnwys corfforol, ariannol, emosiynol neu seicolegol, rhywiol ac esgeulustra. Mae ymddygiad gorfodol a rheolaethol hefyd yn fath o gamdriniaeth; mae’n weithred neu batrwm o weithredoedd o ymosodiadau, bygythiadau, bychanu, a chodi ofn neu fathau eraill o gamdriniaeth sy’n cael eu defnyddio i niweidio, cosbi, neu godi ofn ar eu dioddefwr.

Mae camdriniaeth yn digwydd yng nghartrefi pobl, mewn cartrefi gofal, ysbytai, gofal dydd a lleoliadau eraill. Mae gan y rhan fwyaf o bobl berthynas dda gyda’u teuluoedd, gofalwyr ffurfiol ac anffurfiol a phroffesiynau eraill, ond nid yw hyn yn wir i bawb. Mae camdriniaeth yn aml yn cael ei gyflawni gan bobl rydyn ni’n ymddiried ynddynt, a phobl sydd â pherthynas â’r unigolyn.

Ni fydd Age Cymru’n goddef unrhyw fath o gamdriniaeth, ac rydyn ni’n credu dylai pobl fod yn gallu byw mewn amgylchedd sydd yn ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustra.

Ym mhob sefyllfa, mae Age Cymru’n credu bod gan bawb yr hawl i:

  • Breifatrwydd
  • Cael eu trin gydag urddas
  • Byw bywyd annibynnol, a chael eu galluogi i fyw’n annibynnol
  • Dewis sut maent yn byw eu bywydau
  • Cael eu hamddiffyn gan y gyfraith
  • Disgwyl bod eu hawliau’n cael eu cynnal heb ystyried eu hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd, mamolaeth, hil, crefydd, cred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

 

Last updated: Maw 08 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top