Skip to content
Cyfrannwch

Beth yw diogelu oedolion?

Mae Diogelu yn cyfeirio at ein dyletswydd i amddiffyn hawl oedolyn i fyw yn ddiogel, yn rhydd oddi wrth gamdriniaeth ac esgeulustra. Mae’n golygu bod pobl a sefydliadau yn cyd-weithio er mwyn atal a stopio’r peryglon a’r profiad o gamdriniaeth ac esgeulustra. Ar yr un pryd, mae’n golygu sicrhau bod llesiant oedolyn yn cael ei hyrwyddo yn cynnwys, lle mae’n addas, parchu eu barnau, eu dymuniadau, eu teimladau a’u credoau wrth benderfynu ar unrhyw weithrediadau.

Mae Oedolyn Mewn Perygl yn cyfeirio at unrhyw oedolyn (sydd yn 18 oed neu’n hŷn) sydd yn:

(a) Dioddef camdriniaeth neu esgeulustra, neu sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustra;

(b) Mae ganddynt anghenion gofal ac mae angen cefnogaeth arnynt (os yw’r awdurdod yn cefnogi’r anghenion hynny neu beidio), ac

(c) O ganlyniad i’r anghenion hynny, maent yn methu amddiffyn eu hun rhag camdriniaeth neu esgeulustra, neu’r perygl o gamdriniaeth neu esgeulustra.”

Camdriniaeth

Mae “camdriniaeth” yn golygu camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys camdriniaeth sydd yn digwydd mewn unrhyw leoliad, mewn annedd breifat, mewn sefydliad, neu mewn unrhyw le arall), ac mae “camdriniaeth ariannol” yn cynnwys:

  • arian neu unrhyw eiddo arall yn cael ei ddwyn
  • twyllo
  • rhoi unigolyn o dan bwysau o ran eu harian neu unrhyw eiddo arall
  • camddefnyddio arian neu unrhyw eiddo arall.

Esgeulustra

Mae “esgeulustra” yn golygu methu cefnogi anghenion sylfaenol corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol unigolyn. Bydd hyn yn debygol o amharu ar lesiant yr unigolyn (er enghraifft, amharu ar iechyd yr unigolyn).

Gall camdriniaeth fod yn Anweithred (methu gweithredu) neu gamdriniaeth. Gall gamdriniaeth olygu bod oedolyn sydd yn agored i niwed yn cael ei berswadio i ymuno â chytundeb ariannol neu rywiol nad ydynt wedi ei ddeall na chaniatáu, neu nad ydynt yn medru ei ddeall na chaniatáu.

Mae oedolyn sydd yn agored i niwed yn medru bod yn unigolyn sydd, er enghraifft:

  • yn fregus oherwydd afiechyd, anabledd corfforol neu amhariad gwybyddol
  • person sydd ag anabledd dysgu
  • person sydd ag anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau
  • person sydd ag anghenion iechyd meddwl yn cynnwys dementia neu anhwylder personoliaeth
  • person sydd ag anhwylder/cyflwr hirdymor
  • person sydd yn cam-drin sylweddau neu alcohol
  • person sydd yn ofalwr di-dâl, er enghraifft aelod o’r teulu neu ffrind sydd yn darparu cymorth personol a gofal i oedolion ac sydd yn dioddef camdriniaeth
  • Person sydd ddim â’r galluedd meddwl i fedru gwneud penderfyniadau penodol, ac sydd angen gofal a chefnogaeth.

Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu.

Ymddygiad gorfodol a rheolaethol

Nid yw ymddygiad gorfodol a rheolaethol yn ymwneud â digwyddiad unigol, mae’n batrwm pwrpasol o ymddygiad sydd yn digwydd dros gyfnod o amser er mwyn i un unigolyn arfer pŵer, rheolaeth neu orfodaeth dros unigolyn arall. Mae’r drosedd newydd hon yn canolbwyntio cyfrifoldeb ac atebolrwydd ar y troseddwr sydd wedi dewis ymddwyn fel hyn.

Mae’r diffiniad traws-Lywodraethol hyn o drais domestig a chamdriniaeth yn nodi mai ymddygiad rheolaethol a gorfodol yw:

Mae ymddygiad rheolaethol yn cynnwys amrywiaeth o weithredoedd sydd yn gwneud person i deimlo’n israddol neu’n ddibynnol drwy eu harwahanu wrth ffynonellau o gefnogaeth, camddefnyddio eu hadnoddau a’u gallu er mwyn manteisio’n bersonol, gan eu hamddifadu o bethau sydd angen er mwyn bod yn annibynnol, ac er mwyn medru gwrthsefyll a dianc a rheoli eu hymddygiad bob dydd. Mae ymddygiad gorfodol yn weithred barhaus sy’n cael ei defnyddio i niweidio, cosbi neu hala ofn ar ddioddefwr.

Dylai delio gydag ymddygiad gorfodol a rheolaethol fod yn rhan o weithdrefnau diogelu oedolion a/neu blant a gweithdrefnau diogelu’r cyhoedd.

Efallai na fydd y mathau o ymddygiad sydd yn gysylltiedig â gorfodaeth a rheolaeth yn golygu bod trosedd wedi digwydd. Mae’n bwysig cofio bod ymddygiad gorfodol a rheolaethol ddim yn golygu nad oes unrhyw drosedd arall wedi ei chyflawni, nac yn methu cael ei chyhuddo. Ond, efallai bydd y troseddwr yn lleihau’r cyfle i weithredu, ac yn arddangos stori o berchnogaeth, neu fod ganddynt hawl dros y dioddefwr. Mae ymddygiad felly’n medru cynnwys:

  • cadw person i ffwrdd wrth eu teulu a’u ffrindiau
  • eu hamddifadu o'u hanghenion sylfaenol
  • monitro eu hamser
  • monitro person drwy ddefnyddio offer cyfathrebu ar-lein neu drwy ddefnyddio ysbïwedd
  • rheoli elfennau o’u bywydau pob dydd, er enghraifft ble mae hawl ganddynt fynd, pwy maent yn medru gweld, beth i’w wisgo, a phryd maent yn cael cysgu
  • eu stopio rhag mynychu gwasanaethau gofal, er enghraifft cefnogaeth arbenigol neu wasanaethau meddygol
  • eu gwneud i deimlo’n ddiwerth, er enghraifft dweud wrthynt eu bod yn dda i ddim
  • gorfodi rheolau a gweithgarwch sy'n bychanu, diraddio neu ddad-ddyneiddio'r dioddefwr
  • gorfodi'r dioddefwr i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol, er enghraifft dwyn o siopau, esgeuluso neu gam-drin plant er mwyn eu hannog i roi’r bai ar eu hun a’u hatal rhag datgelu i awdurdodau
  • cam-drin ariannol gan gynnwys rheoli cyllid, megis caniatáu lwfans cosbol yn unig
  • bygwth achosi niwed neu ladd
  • bygwth plentyn
  • bygwth datgelu neu gyhoeddi gwybodaeth breifat (e.e. bygwth datgelu cyfrinach am gyfeiriadedd rhywiol rhywun)
  • ymosod
  • difrod troseddol (megis dinistrio nwyddau cartref)
  • treisio
  • atal person rhag cael mynediad at drafnidiaeth neu eu hatal rhag gweithio.

 

Last updated: Medi 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top