Skip to content
Cyfrannwch

Camdriniaeth rywiol

Mae camdriniaeth rywiol yn cynnwys: treisio, dinoethiad anweddus, aflonyddu rhywiol, edrych neu gyffwrdd amhriodol, pryfocio rhywiol neu ensyniadau, ffotograffiaeth rywiol, gorfodi unigolyn i ymwneud â phornograffi neu fod yn dyst i weithredoedd rhywiol.

Dangosyddion posibl o gamdriniaeth rywiol

  • Newid sylweddol mewn ymddygiad neu agwedd rhywiol
  • Beichiogrwydd mewn menyw nad yw'n gallu cydsynio i gyfathrach rywiol
  • Newidiadau i hunanreolaeth wrinol neu hunan-drochi
  • Canolbwyntio gwael
  • Mae'n ymddangos bod person yn swil, yn isel neu'n teimlo dan straen
  • Anhawster neu sensitifrwydd anarferol wrth gerdded neu eistedd
  • Dillad isaf wedi eu rhwygo, eu baeddu neu’n waedlyd
  • Cleisiau, gwaedu, poen neu gosi yn yr organau cenhedlol
  • Clefydau a drosglwyddir yn rhywiol, y llwybr wrinol neu haint y wain
  • Cleisiau ar luniau, rhan dop y breichiau, neu wddf, neu 'brathiadau cariad'
  • Ymddygiad hunan-niweidiol
  • Dangos arwyddion o ofn neu ofid emosiynol
  • Cleisiau o amgylch y bronnau neu'r organau cenhedlol
  • Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol heb esboniad
  • Gwaedu gweiniol neu rhefrol anesboniadwy
  • Dillad isaf wedi eu rhwygo, eu baeddu neu’n waedlyd
  • Arddangosfeydd amhriodol o anwyldeb corfforol neu gyffwrdd rhywiol gan ddarparwr gofal
  • Yr oedolyn sydd angen gofal a chymorth yn dweud wrthych ei fod wedi dioddef ymosodiad rhywiol, treisio neu ei fod wedi cael ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol nad yw wedi cydsynio iddo.

 

Last updated: Maw 08 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top