Skip to content
Cyfrannwch

Gwanwyn

Gwanwyn 2025: Cymru Garedig

Dathlu ein cymuned a chreadigedd.

Mae Gwanwyn yn ŵyl genedlaethol sy'n digwydd drwy gydol mis Mai bob blwyddyn, a'i nod yw arddangos creadigedd pobl hŷn. Ers 2007, mae Gwanwyn wedi gweithio gydag artistiaid a sefydliadau o bob math er mwyn hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau creadigol yn cynnwys comedi, gwnïo, Bollywood a chlybiau llyfrau.

Mae Gŵyl Gwanwyn yn gyfle i bobl hŷn fod yn greadigol fel ymarferwyr, trefnwyr, neu aelodau o gynulleidfa. Mae Gŵyl Gwanwyn yn helpu pobl hŷn i ddeall sut allant elwa drwy fod yn greadigol yn gorfforol ac yn feddyliol.

Thema Gwanwyn 2025 yw ‘Cymru Garedig’.

Mae cymunedau caredig yn adnabod bod pobl yn medru cefnogi ei gilydd yn ystod cyfnodau o afiechyd, wrth wynebu marwolaeth, profedigaeth a galar.

Age Cymru yw ysgrifenyddiaeth Cymru Garedig, grŵp o unigolion a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i wella a chefnogi profiadau pobl ledled Cymru sy’n wynebu diwedd eu hoes a phrofedigaeth.

Cliciwch ar ddolen gwefan Cymru Garedig i gael rhagor o wybodaeth: https://compassionate.cymru/cy/, e-bostiwch contact@compassionate.cymru neu ffoniwch 029 2043 1555

Bydd yna gyfleoedd drwy gydol mis Mai i fod yn rhan o weithgareddau’r Ŵyl, yn cynnwys rhoi tro ar rywbeth newydd er mwyn arddangos eich sgiliau creadigol.

Rhan o nod Gwanwyn yw herio stereoteipiau am heneiddio a phobl hŷn, a byddwn ni’n arddangos gweithgareddau, digwyddiadau, artistiaid a grwpiau sy’n cynrychioli amrywiaeth a phrofiadau pobl hŷn ledled Cymru.

Os hoffech chi lanlwytho digwyddiad i galendr yr Ŵyl, llenwch ein ffurflen ar-lein.

I gael y newyddion diweddaraf am Ŵyl Gwanwyn, ac i ddarganfod sut allwch chi fod yn rhan o’r Ŵyl, ymunwch â’r rhestr bostio drwy e-bostio gwanwyn@agecymru.org.uk

Neu ffoniwch 029 2043 1555

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Gwanwyn on Facebook

Gwanwyn on Twitter

 

Last updated: Maw 21 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top