Skip to content
Cyfrannwch

Beth Yw Bod Yn Hŷn

Rydyn ni’n hynod o blês i rannu ein llyfrgell ddelweddau Beth Yw Bod Yn Hŷn. Gallwch edrych ar y delweddau a’u lawrlwytho drwy fynd at ein tudalen Unsplash yma .

Ariannwyd Beth Yw Bod Yn Hŷn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, i ddarparu delweddau sydd yn cynrychioli amrywiaeth a phrofiadau pobl hŷn yng Nghymru.

Anelir ein hargymhellion at unrhyw unigolyn neu gyhoeddiad neu sefydliad sy’n cynrychioli pobl hŷn yn eu gwaith, ac fe’u hamlinellir isod.

Mae angen i ni ystyried y ffaith bod pawb ohonom yn heneiddio, yn hytrach na meddwl am oedran fel rhyw gyrchfan bell i ffwrdd. Mae hyn yn helpu i leihau ‘aralloli’ pobl hŷn. Mae angen i ni gydnabod hefyd nad yw pobl hŷn yn un grŵp unffurf a bod eu bywydau a’u ffyrdd o fyw yr un mor amrywiol ag unrhyw grŵp oedran arall.

Gallwn weithio’n galetach i gael cysyniad gan bobl i sicrhau ein bod yn dangos y person cyfan mewn delweddau. Caiff pobl eu diddynoli wrth ddangos eu dwylo yn unig, er enghraifft. Ceir llawer iawn o bŵer mewn wyneb person.

Mae angen i ni fod yn wyliadwrus ynghylch diffinio pobl yn ôl eu hincwm gan y wladwriaeth, e.e. ‘Pensiynwr’, ac ystyried p’un ai ydym yn atgyfnerthu ystrydebau yn yr iaith a ddefnyddiwn. Ydych chi’n hyrwyddo stereoteip peryglus o ddibyniaeth neu wendid pan nad yw hynny’n rhan o’r stori?

Mae angen i ni roi llais i bobl hŷn a fydd yn helpu i chwalu rhwystrau rhwng y cenedlaethau, a threchu ystrydebau a galluogi pobl i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn senarios bywyd go iawn, beunyddiol.

Gallwn hyrwyddo’r sbectrwm llawn o brofiadau pobl hŷn, ac nid yr eithafion yn unig. Mae hyn yn cynnwys rhyngblethedd pobl hŷn o gefndiroedd, hiliau a chyfeiriadedd rhywiol gwahanol.

Lle bo modd, dylem ddefnyddio astudiaethau achos neu brofiadau bywyd go iawn pobl hŷn i helpu cynulleidfaoedd i uniaethu â straeon ehangach.

Mae llais ar y cyd yn llais pwerus. Dangoswch i ni eich portreadau gwirioneddol o bobl hŷn, helpwch ni i ledaenu’r gair a mynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran trwy ddefnyddio #BethYwBodYnHŷn

Gallwch ddarllen ein holl argymhellion

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top