Skip to content
Cyfrannwch

Symud i fyw mewn cartref gofal: Teimlo bod croeso i chi

Pan mae rhywun yn symud i fyw mewn cartref gofal, mae’n gyfnod o newid sylweddol.  Efallai eu bod nhw’n gwella wedi cyfnod yn yr ysbyty, neu wedi profi galar, neu mae eu hiechyd corfforol neu feddyliol wedi dirywio.  Efallai nad oes ganddyn nhw unrhyw ddodrefn o’u cartref a fyddai’n gwneud iddyn nhw deimlo’n gartrefol.  Mae cefnogi rhywun wrth iddyn nhw symud i fyw mewn cartref gofal yn rhoi ymdeimlad o ddiogelwch seicolegol i unigolyn, a gall gael effaith gadarnhaol ar allu preswylwyr i deimlo’n gartrefol mewn cartref gofal.

Mae Age Cymru wedi creu adnodd sy’n canolbwyntio ar gefnogi llesiant preswylwyr wrth iddyn nhw symud i fyw mewn cartref gofal.

Diogelu'r Pethau Pwysig (PDF) 

Mae Age Cymru wedi creu adnodd sy’n canolbwyntio ar gefnogi llesiant preswylwyr wrth iddyn nhw symud i fyw mewn cartref gofal. 

Gwneud i Berthnasoedd Gyfrif (PDF)

Mae Age Cymru wedi cynhyrchu adnodd sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl pan mae aelod o’u teulu neu ffrind yn symud i fyw mewn cartref gofal.

Gweithio gyda gofalwyr hŷn: Adnodd arferion da ar gyfer staff cartrefi gofal

Datblygodd Age Cymru ddull Sut Wyt Ti? er mwyn helpu i gynnal sgyrsiau da sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Dull Sut Wyt Ti? 

 

Last updated: Ion 15 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top