Cyn-filwyr
Mae’n bwysig gofyn i breswylwyr mewn cartrefi gofal os wnaethon nhw wasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Mae’r wybodaeth hyn yn helpu staff i ddeall pa fath o berthnasau sy’n bwysig i breswylwyr, a beth sydd angen cynnal wrth iddyn nhw symud i fyw mewn cartref gofal – yn ogystal â galluogi staff i adnabod unrhyw anghenion gofal ychwanegol a dod o hyd i gefnogaeth addas. Am ragor o wybodaeth, ewch i adnodd ‘Diogelu’r pethau pwysig’. Mae’r ddolen ar dudalen 4 yn adran ‘Symud i fyw mewn cartref gofal: Croeso’.
Mae Pencampwyr Lluoedd Arfog a Chynfilwyr wedi cael eu sefydlu ymhob awdurdod lleol, bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth y GIG yng Nghymru. Maen nhw’n eirioli ar ran cyn-filwyr a’r lluoedd arfog er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn cynlluniau ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn darparu manylion ychwanegol am ba gefnogaeth sydd gan awdurdodau lleol ar gyfer cyn-filwyr – cliciwch ar y ddolen neu chwiliwch am y termau isod.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - Lluoedd Arfog
Mae Conffederasiwn Elusennau’r Lluoedd Arfog wedi cynhyrchu canllaw am sut i gefnogi cyn-filwyr hŷn mewn gofal preswyl – cliciwch ar y ddolen neu chwiliwch am y termau isod.