Skip to content
Cyfrannwch

Gwerthusiad gwirfoddoli cartrefi gofal

Woman holding a tell me more conversation card

Cefnogi lles preswylwyr cartrefi gofal

Mae Age Cymru wedi cynnal cynlluniau gwirfoddoli prawf mewn cartrefi gofal yn y gorffennol, felly rydyn ni'n gwybod bod gwirfoddoli'n cael effaith gadarnhaol ar les preswylwyr cartrefi gofal, yn ogystal â staff, perthnasau a gwirfoddolwyr.

O fis Gorffennaf 2023 tan fis Mawrth 2024, gwnaethom recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr ac yn eu sefydlu mewn cartrefi gofal.  Roedd ein hymarferwyr celf yn cefnogi cartrefi gofal gyda'r gwaith o sefydlu gwirfoddolwyr a'u hyfforddi gan ddilyn dull Sut Wyt Ti?

Ochr yn ochr â hyn, gwnaethom werthuso effaith gwirfoddoli ar les preswylwyr, staff a gwirfoddolwyr.  Roeddem yn ceisio deall beth sydd ei angen er mwyn gwneud yn siŵr bod gwirfoddoli'n gynaliadwy.

Darllenwch ein hadroddiad

Gwyliwch ein fideo i glywed am brofiadau'r gwirfoddolwyr

Funded by Welsh Government logo

 

Last updated: Awst 07 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top