Skip to content
Cyfrannwch

Ein gwaith

Ein nod yw darparu gwasanaethau sy'n gwella bywyd a chymorth hanfodol i bobl yn hwyrach yn eu bywydau. Rydym ni a'n partneriaid lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ledled Cymru.

Ein prosiectau a'n gwasanaethau

  • Eiriolaeth

    Mae ein prosiectau eiriolaeth yn sicrhau bod gennych lais a rheolaeth dros yr hyn sy'n digwydd i chi.
  • Oedran yn y Gwaith

    Mae Age Cymru eisiau annog a chefnogi busnesau i adeiladu gweithleoedd sydd yn gyfeillgar i oedran lle gall gweithwyr hŷn ffynnu. Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Busnes yn y Gymuned (Cymru) i gefnogi cyflogwyr drwy'r rhaglen Age at Work, wedi'i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
  • Celfyddydau a Chreadigrwydd

    Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ein rhaglenni celfyddydau a chreadigrwydd, cARTrefu a Gwanwyn.
  • Prosiect Gofalwyr

    Mae gofalwyr hŷn yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn darparu gofal di-dâl sy'n werth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn. Ond heb gymorth effeithiol, gall gofalwyr flino a mynd yn sâl.
  • Cartrefi Gofal

    Rhagor o wybodaeth am ein gwaith gyda Chartrefi Gofal, gan gynnwys ein prosiect Sut Wyt Ti?
  • Prosiect Cymorth Cymunedol

    Mae’r prosiect yn darparu cefnogaeth i bobl hŷn gan eu helpu i gymryd rhan a chysylltu gyda’u cymunedau lleol gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr hyfforddedig.
  • Fforwm ymgynghorol

    Pobl hŷn sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Am y rheswm hwn, datblygodd Age Cymru'r Fforwm Ymgynghorol i gynorthwyo a rhoi cyngor i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ar bolisi'r dyfodol.
  • Ffrind Mewn Angen

    Mae ein gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn yn darparu galwad ffôn yn wythnosol am ddim i bobl yng Nghymru sy'n 70 oed neu'n hŷn.
  • Yn eich ardal chi

    Mae gennym ni ganghennau Age Cymru lleol ledled Cymru yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl hŷn. Dewch o hyd i Age Cymru lleol yn agos atoch chi.
  • Prosiect 360°

    Mae prosiect 360° yn brosiect partneriaeth arloesol dan arweiniad Age Cymru, yn gweithio gyda Woody's Lodge, ac aelodau Age Alliance Wales i gefnogi cyn-filwyr hŷn ledled Cymru.
  • Hyrwyddo iechyd a lles

    Gallwch ddysgu mwy am ein rhaglenni iechyd a lles gan gynnwys gwybodaeth am gwympo, rhaglenni gweithgareddau corfforol a’n ymgyrch ar gyfer y Gaeaf, Lledaenu'r Cynhesrwydd.
  • Diogelu

    Darganfyddwch fwy am ddiogelu gan gynnwys gwybodaeth am fathau o gamdriniaeth.

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top