Skip to content
Cyfrannwch

Mynediad i fancio

Rydym angen i fanciau amddiffyn mynediad i ganghennau lleol i bobl hŷn

Yng Nghymru, yn ôl Which?, yn syfrdanol mae 348 o ganghennau bancio wedi cau ers 2015, yn gadael dim ond 211 o ganghennau ar agor. Tra bod hybiau bancio wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Abergele, Abertyleri, Prestatyn, Porthcawl a’r Trallwng, nid ydynt wedi agor eto. 

Gyda chymaint o ganghennau yn cau ar gyfradd gyflym, mae Age Cymru yn bryderus am yr effaith aflesol mae hwn yn cael ar allu nifer o bobl hŷn i gael mynediad i’w cyllid personol. Mae llawer o bobl hŷn yn dibynnu ar wasanaethau bancio mewn person  i gael mynediad i’w harian, rheoli eu cyfrifon banc ac i wneud trafodion. Mae hwn yn hynod o bwysig i’r bobl hŷn sydd ddim ar-lein a phan fod bron i drydydd o bobl o’r oedran 75 a henach yng Nghymru wedi’u heithrio’n ddigidol.

Mae pobl hŷn wedi dweud wrthym eu bod yn gorfod teithio pellter hirach yn fwy aml i gael cymorth mewn person ar gyfer gwasanaethau bancio, sydd yn enwedig yn anodd i rai sydd heb drafnidiaeth bersonol. Gyda’r lleihad o drafnidiaeth gyhoeddus a pha mor annibynadwy ydyw, mae’n ei wneud yn anodd yn ddiangen i bobl gael y cymorth sydd eu hangen arnynt.

Rydym yn deall fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar faint o bobl sy’n defnyddio canghennau ar draws y Deyrnas Unedig, ond mae angen i fanciau sicrhau eu bod yn gweithio i ddarparu gwasanaethau amgen cymwys i gwsmeriaid mewn person a'u bod yn cynnal ymgynghoriadau cynhwysfawr gyda chymunedau am yr effaith o unrhyw ganghennau’n cau.

Gwelwn rai enghreifftiau positif o flaengaredd mewn ardaloedd yng Nghymru

Un enghraifft dda yw yng Nghaerffili mae’r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio’n flaengar gyda banciau sydd am gau yn yr ardal i osod darpariaeth amgen. Esiampl dda arall yw yn y Bont Faen mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi lansio treial yn ddiweddar sydd yn caniatáu i gwsmeriaid o 22 o fanciau i reoli eu harian mewn ciosg newydd sydd yn cael ei redeg gan One Banx.

Ond, mae angen i fanciau gwneud mwy i sicrhau nad ydy cymunedau yn cael eu gadael heb wasanaeth bancio, a bod pobl hŷn ddim yn cael eu heithrio o reoli cyllid eu hunain.

Sut gallwch chi gymryd rhan yn ein ymgyrch?

  1. Rydym yn eich annog i ysgrifennu at eich cangen leol, eich cynghorydd lleol, Aelod o’r Senedd a’ch AS lleol i dynnu sylw at eich pryderon ynghylch cau banc yn y gymuned
  2. Unwaith y byddwch wedi anfon eich llythyr neu e-bost, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni eich bod wedi gwneud hynny.

 

Last updated: Tach 08 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top