Skip to content
Cyfrannwch

Gwneud y broses o ryddhau pobl o’r ysbyty yn fwy diogel

Nid oes angen help ar bawb sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ond i rai, mae cael help yn hanfodol. I'r rhai sydd angen help, mae'n bwysig eich bod yn gwybod pa help y gallai fod ei angen arnoch a ble gallwch ddod o hyd iddo. Mae deall eich hawliau chi a'ch anwyliaid yn eich helpu i gael yr help sydd ei angen arnoch er mwyn gwella.

Efallai na fydd pobl hŷn sydd wedi treulio tipyn o amser ar ward mewn ysbyty mor ffit a heini a beth oeddent cyn mynychu’r ysbyty, ac felly efallai y bydd angen ychydig o help arnynt gyda thasgau bob dydd ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Neu, os ydy eu hamgylchiadau yn gorfod newid wedi iddynt fod yn yr ysbyty, gall hyn olygu bod angen iddynt addasu eu bywyd, ac efallai bydd angen gofal arnynt. Gall hyn fod am gyfnod dros dro neu am gyfnod hirach. Pan mae pobl yn wynebu newid mewn amgylchiadau bywyd, gall wirio hawliau budd-dal a mathau eraill o gymorth ariannol fod yn ddefnyddiol. Ym mhob achos, mae'n bwysig nad yw rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn golygu eu bod mewn sefyllfa beryglus, a bod ganddynt yr help sydd ei angen arnynt er mwyn medru gwella.

Fel arfer, mae trefnu'r gofal a'r cymorth sydd ei angen ar bobl hŷn er mwyn iddynt fedru gadael yr ysbyty yn ddiogel yn cael ei wneud drwy'r GIG neu staff gofal cymdeithasol. Mae rhai yn gwneud trefniadau gydag elusennau er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn medru mynd adref i fyw mewn ffordd iach a diogel.

Dylai teulu, anwyliaid a gofalwyr di-dâl fod yn rhan o asesiadau a threfniadau gofal pan mae'r person hŷn sy'n gadael yr ysbyty yn dymuno eu cynnwys yn y broses. Yng Nghymru, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi fframwaith cyfreithiol i unigolion gael llais a rheolaeth wrth wneud trefniadau ar gyfer gofal.

Rydyn ni eisiau eich cefnogi i ddeall eich hawliau, a pha help fedrwch chi a’ch anwyliaid ei hawlio.

Dewch o hyd i wybodaeth am eich hawliau yn y dolenni a'r llinellau ffôn isod.

Age Cymru Gwybodaeth a Chyngor

Rhif ffôn: 0300 303 44 98      

Ebost: advice@agecymru.org.uk 

Pecyn Cymorth Hawliau Dynol

Lles drwy wres  

Canllawiau gwybodaeth a taflenni ffeithiau  

Eich arhosiad yn yr ysbyty  

Taflen ffeithiau trefniadau rhyddhau o'r ysbyty

Taflen ffeithiau Lwfans Gweini

Taflen ffeithiau trin eiddo yn y prawf modd ar gyfer darpariaeth cartrefi gofal parhaol yng Nghymru

Taflen ffeithiau am dalu am ofal cartref yn Gymru os oes gennych bartner

Gwybodaeth budd-daliadau a hawliadau 

Bartneriaid lleol Age Cymru

Carer's Trust  

Care & Repair Cymru

Comisiyndd Pobl Hyn Cymru - Eich Hawliau  

Royal Voluntary Service - Safe, Warm Well

Cymdeithas Alzheimer’s – Beth sy’n digwydd pan fydd person â dementia yn cael ei ryddhau o’r ysbyty?

Os ydych chi eisiau siarad am eich profiadau o gael eich rhyddhau o'r ysbyty gallwch e-bostio'r tîm polisi ar policy@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1571.

 

Last updated: Ion 03 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top