Skip to content
Cyfrannwch

Cynllunio gofal ymlaen llaw

Park Homes

Rydyn ni'n debygol o fyw tua un rhan o bump o'n bywydau gyda rhyw fath o salwch. Mae sicrhau bod ein hanwyliaid yn gwybod sut rydyn ni am dderbyn gofal os ydyn ni'n mynd yn fregus yn eu helpu i wneud y penderfyniadau cywir os nad ydych chi'n gallu rhoi gwybod iddyn nhw yn ddiweddarach.

Mae pandemig Covid-19 wedi gwneud i lawer ohonon ni feddwl mwy nag erioed am yr hyn sy'n bwysig i ni. Yn drist iawn, mae llawer o bobl wedi marw yn ystod y pandemig. Rydyn ni wedi clywed sut nad yw rhai pobl ar draws Cymru wedi gallu cael y gofal diwedd oes roedden nhw eisiau ar gyfer eu taith olaf; ac i rai, pa mor anodd fu hi i gael y gofal yr oedd ei angen yn ystod argyfwng y pandemig.

Yn genedlaethol, mae gwaith yn cael ei wneud i geisio atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd byth eto. Ond mae rhai pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i gynllunio ar gyfer yn hwyrach mewn bywyd a all roi tawelwch meddwl inni. Gallwn sicrhau bod ein dymuniadau wedi'u trefnu os ydyn ni'n mynd yn fregus neu'n sâl.

Trafod eich dymuniadau

Mae meddwl am hyn a siarad â'n hanwyliaid yn gallu bod yn anodd, ond does dim angen iddo fod. Mae sicrhau bod eich anwyliaid yn gwybod am eich dymuniadau yn eich grymuso a chymryd llawer o straen i ffwrdd.

Gall y sgyrsiau hyn fod yn anodd, ond gall yr awgrymiadau canlynol helpu:

Gadewch i'ch teulu wybod mewn da bryd beth rydych chi am ei drafod fel nad yw'r sgwrs yn eu synnu

Dewiswch amser a man lle na fydd unrhyw un yn tarfu arnoch, neu yn eich hachosi i ruthro

Peidiwch â phoeni am geisio trafod popeth mewn un sgwrs

Ystyriwch ysgrifennu nodiadau ymlaen llaw am yr hyn rydych chi am ei drafod er mwyn sicrhau eich bod yn trafod popeth rydych chi am ei wneud

Peidiwch â theimlo cywilydd os oes unrhyw un ohonoch chi'n mynd yn emosiynol. Byddwch yn onest a siaradwch am eich holl deimladau, nid dim ond y rhai positif

Gall teulu a ffrindiau fod yn gyndyn o gael y sgyrsiau yma - efallai nad ydyn nhw eisiau meddwl amdanoch chi fel hyn, neu maen nhw'n poeni am ddweud y pethau anghywir. Efallai y byddai'n tawelu meddyliau teulu a ffrindiau i ddweud wrthyn nhw y byddai'n eich helpu chi i siarad.

Cofiwch nad oes ffordd gywir nac anghywir i ddechrau'r sgyrsiau hyn. Dewiswch y bobl rydych chi eisiau siarad â nhw, a dim ond rhannu cymaint o wybodaeth ag yr ydych chi'n teimlo'n gyfforddus gyda nhw. Ac os nad ydych chi eisiau siarad, mae hynny'n iawn hefyd.

Penderfyniadau ymlaen llaw

Mae 'penderfyniadau ymlaen llaw' neu 'ewyllysiau byw' yn cael eu defnyddio i ddogfennu'r hyn rydyn ni am ddigwydd os nad ydyn ni'n gallu cyfleu ein penderfyniadau ein hunain. Er enghraifft, os ydych chi'n anymwybodol neu wedi datblygu dementia. Mae'n caniatáu ichi ddweud os ydych chi am wrthod rhai rhannau o driniaeth feddygol yn y dyfodol. Mae gwneud penderfyniadau ymlaen llaw yn helpu i sicrhau bod eich anwyliaid yn gwybod beth i'w wneud os na allwch chi ddweud wrthyn nhw eich hun. Ac os ydych chi'n newid eich meddwl am unrhyw beth, gallwch ei newid ar unrhyw adeg.

Atwrneiaeth arhosol

Dogfen a gydnabyddir yn gyfreithiol yw 'Grym atwrnai' sy'n gadael i rywun wneud penderfyniadau ar eich rhan os nad ydych chi'n gallu gwneud y penderfyniadau hynny eich hun mwyach. Does dim rhaid i bŵer atwrnai fod am byth - gall fod yn drefniant dros dro os ydych, er enghraifft, angen rhywun arall i dalu biliau gyda'ch arian tra eich bod yn yr ysbyty am driniaeth.

Ewyllysiau

I sicrhau bod eich dymuniadau'n cael eu gweithredu, mae gwneud ewyllys yn hanfodol. Os byddwch yn marw heb ewyllys dilys efallai na fydd eich arian a'ch eiddo yn mynd i'r bobl, rydych chi eisiau eu dewis.

Byddwch chi eisiau meddwl faint sydd yn eich ystâd; a oes unrhyw ddyledion i'w nodi, pwy rydych chi am i'ch asedau fynd iddyn nhw a phwy rydych chi am fod yn ysgutorion eich ewyllys.

Mae sawl ffordd o lunio ewyllys. Gallech wneud hyn drwy gyfreithiwr, gwasanaeth ysgrifennu ewyllys proffesiynol, elusennau sy'n cynnig y gwasanaeth hwn, eich banc, neu fe allech chi lunio'ch ewyllys eich hun. Dogfen gyfreithiol yw ewyllys, felly mae angen ei hysgrifennu a'i llofnodi'n gywir. Nid yw pob gwasanaeth ysgrifennu ewyllys yn cael eu rheoleiddio a rhai symiau sylweddol ar gyfer eu gwasanaethau, felly efallai y byddwch am wirio'r pethau hyn yn gyntaf.

Mwy o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol am gynllunio gofal ymlaen llaw yn ein taflenni ffeithiau

Meddwl am ddiwedd oes

 

Last updated: Ion 10 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top