Skip to content
Cyfrannwch

Addewid yn ymwneud a chasglu arian

Mae Age Cymru wedi'i gofrestru gyda'r Rheoleiddiwr Casglu Arian. Dyma’r corff annibynnol sy'n gosod ac yn cynnal y safonau ar gyfer casglu arian elusennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Rydym wedi ymrwymo i'r Addewid ynghylch casglu arian, ac i drin rhoddwyr a'r cyhoedd gyda pharch, tegwch, gonestrwydd, ac eglurder yn ein gweithgareddau codi arian. Byddwn yn adolygu ein harferion codi arian yn gyson a byddwn yn gweithio gydag eraill gyda'r nod o wella ymarferion ar draws y sector elusennau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â hyn, neu unrhyw agwedd o'n gwaith, peidiwch ag oedi i anfon e-bost atom neu ffoniwch y rhif 029 2043 1555.

Byddwn ni'n ymrwymo i gynnal safonau uchel

  • Byddwn yn cadw at y Cod Ymarfer ynghylch Casglu Arian
  • Byddwn yn monitro pobl sydd yn casglu arian, gwirfoddolwyr a thrydydd partïon sy'n gweithio gyda ni i gasglu arian, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â'r Cod Ymarfer a gyda'r Addewid hwn
  • Byddwn yn cydymffurfio â'r gyfraith fel y mae'n berthnasol i elusennau a chasglu arian
  • Byddwn yn arddangos bathodyn y Rheoleiddiwr ar gyfer casglu arian ar ein deunydd casglu arian i ddangos ein bod wedi ymrwymo i arferion da.

Byddwn yn glir, yn onest ac yn agored

  • Byddwn yn dweud y gwir ac ni fyddwn yn gor-ddweud
  • Byddwn yn gwneud yr hyn rydyn ni'n dweud ein bod yn mynd i'w wneud gyda'r rhoddion rydyn ni'n eu derbyn
  • Byddwn ni'n glir ynglŷn â phwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud
  • Byddwn yn rhoi eglurhad clir o sut y gallwch gyfrannu'n rheolaidd
  • Pan fyddwn yn gofyn i drydydd parti godi arian ar ein rhan, byddwn yn sicrhau bod y berthynas hon a'r trefniadau ariannol yn dryloyw
  • Byddwn yn gallu esbonio ein costau codi arian a dangos sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud er lles ein hachos os ydynt yn cael eu herio
  • Byddwn yn sicrhau bod ein proses gwyno yn glir ac yn hawdd i’w chyrraedd
  • Byddwn yn darparu rhesymau clir, yn seiliedig ar dystiolaeth, am ein penderfyniadau am gwynion.

Byddwn yn barchus

  • Byddwn yn parchu eich hawliau a'ch preifatrwydd
  • Ni fyddwn yn rhoi gormod o bwysau arnoch i wneud rhodd
  • Os nad ydych am roi, neu rydych chi am roi'r gorau i roi, byddwn yn parchu eich penderfyniad
  • Bydd gweithdrefn gennym ar gyfer delio â phobl mewn amgylchiadau bregus. Bydd y weithdrefn ar gael ar gais
  • Lle mae'r gyfraith yn mynnu, byddwn yn cael eich caniatâd cyn cysylltu â chi i gasglu arian
  • Os nad ydych chi eisiau i ni gysylltu gyda chi mewn ffordd benodol, ni fyddwn yn gwneud hynny
  • Byddwn yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Ffôn, Post a Chasglu Arian i sicrhau nad yw’r bobl sy’n dewis peidio â derbyn gwahanol fathau o gyfathrebu yn derbyn cyfathrebiadau yn y ffurf hynny.

Byddwn yn deg ac yn rhesymol

  • Byddwn yn trin rhoddwyr a'r cyhoedd yn deg, gan ddangos sensitifrwydd ac addasu ein hymagwedd yn dibynnu ar eich anghenion
  • Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni ddim yn defnyddio unrhyw ddelweddau neu eiriau sy'n achosi gofid neu bryder yn fwriadol
  • Byddwn yn gofalu i beidio ag achosi trafferth i’r cyhoedd, na tharfu ar eu traws.

Byddwn yn atebol ac yn gyfrifol

  • Byddwn yn rheoli ein hadnoddau mewn modd cyfrifol. Byddwn yn ystyried yr effaith mae casglu arian yn ei gael ar ein rhoddwyr, ein cefnogwyr a'r cyhoedd yn ehangach.
  • Os ydych yn anhapus gydag unrhyw beth rydym wedi'i wneud wrth gasglu arian, gallwch gysylltu â ni i wneud cwyn
  • Byddwn yn gwrando ar adborth ac yn ymateb yn briodol i ganmoliaeth a beirniadaeth
  • Bydd gweithdrefn gennym er mwyn galluogi pobl i wneud cwyn. Bydd copi o’r weithdrefn ar gael ar ein gwefan neu ar gael ar gais
  • Bydd ein gweithdrefn ar gyfer gwneud cwyn yn rhoi gwybod i chi sut i gysylltu â'r Rheoleiddiwr ar gyfer casglu arian os ydych yn teimlo bod ein hymateb yn anfoddhaol
  • Byddwn yn monitro ac yn cofnodi nifer y cwynion a gawn bob blwyddyn ac yn rhannu'r data hwn gyda'r Rheoleiddiwr ar gyfer casglu arian ar gais.

 

Last updated: Ion 11 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top