Omaze Million Pound House Draw, Ardal y Llynnoedd
Ymunwch â Omaze Lake District House Draw er mwyn ennill cyfle i berchenogi tŷ bendigedig gwerth £4 miliwn.
Ymunwch er mwyn ennill cyfle i berchenogi’r tŷ anhygoel hwn yn Ardal y Llynnoedd, gwerth £4 miliwn, ynghyd a £250,000 ychwanegol mewn arian parod. Wrth gymryd rhan, fyddwch chi’n helpu Age Cymru ac Age UK i gefnogi pobl hŷn unig.
Wrth gymryd rhan, byddwch chi’n cefnogi gwaith hanfodol Age Cymru.
Wrth gymryd rhan yn yr Omaze Million Pound House Draw am gyfle i ennill tŷ yn Ardal y Llynnoedd, bydd gennych chi gyfle i ennill y tŷ bendigedig hwn ger Coniston Water, a byddwch chi’n helpu Age Cymru i gefnogi pobl hŷn unig. Ni ddylai unrhyw un deimlo’n unig – yn enwedig yn ystod Gŵyl y Nadolig. Wrth i nifer ohonom baratoi i dreulio’r Nadolig gyda’n teulu a ffrindiau, llynedd dywedodd 1.4 miliwn o bobl hŷn mai’r Nadolig oedd adeg anoddaf y flwyddyn.
Mae eich cefnogaeth chi yn helpu pobl unig i gysylltu ag eraill. Bydd pob £1 a roddir i’r Omaze Million Pound House Draw am gyfle i ennill tŷ yn Ardal y Llynnoedd yn ariannu 2 filiwn o funudau o weithgareddau cyfeillgarwch a chymdeithasol, a chefnogaeth i bobl hŷn sy’n cael eu trefnu gan Age Cymru ac Age UK.
Gyda’n gilydd does neb yn unig.
Mae Omaze yn gwarantu rhodd elusennol o £1,000,000 fel isafswm i Age Cymru. Omaze UK Ltd sy’n hyrwyddo’r gystadleuaeth â’r wobr o dŷ yn Ardal y Llynnoedd ac Age UK (elusen gofrestredig rhif 1128267) fydd yn derbyn y rhodd. Mae mwy na thraean o werthiannau yn mynd tuag at elusen a ThAW. Mae Omaze yn gwarantu bod 17% o werthiannau o’r gystadleuaeth yn mynd tuag at yr elusen. Ar wahan i werthiannau, mae Omaze wedi gwarantu isafswm o £1,000,000 ar gyfer Age UK. Nid oes angen prynu. Mae’r gystadleuaeth i ennill tŷ yn ardal y Llynnoedd yn cau ar 26 Rhagfyr 2024.