Stori Mam David
Ers marwolaeth fy nhad, mae mam wedi byw gyda fi. Roedd yn sefyllfa ddelfrydol, oherwydd roeddwn i’n medru darparu gofal i mam. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf doedd dim llawer i mi ei wneud, ond wrth i’r blynyddoedd fynd heibio daeth mam yn fwy dibynnol arnaf. Yn ystod y blynyddoedd a’r misoedd diwethaf, daeth hi’n gwbl ddibynnol arnaf.
Oherwydd bod mam yn anabl, roedd angen i mi ddarparu help gyda’u symudedd ar adegau. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio ac wrth i’w symudedd waethygu, nid oedd mam yn medru mynd i unrhyw le heb fy help. Felly, ble bynnag ai hi, roeddwn ninnau’n gorfod mynd hefyd.
Yna, yn 2020, pedwar diwrnod cyn y cyfnod clo cyntaf, cafodd mam ddiagnosis o glefyd Alzheimer / dementia. Roedd hyn yn ystod cyfnod aruthrol o heriol. Roedd eglwys mam newydd gau ac ni fyddai’n ail-agor; er bod y gynulleidfa wedi symud i eglwys arall yn yr ardal, roedd y golled wedi effeithio arni. Roedd rhai o’i ffrindiau wedi marw, a doedd hi ddim yn medru siarad â’r ddwy ffrind ysgol oedd ar ôl oherwydd doedden nhw ddim yn medru ei chlywed na’i hateb dros y ffôn oherwydd eu problemau iechyd eu hun.
Roedd y digwyddiadau hyn wedi achosi sioc emosiynol i mam. Roedd hi’n methu mynd allan, methu cymdeithasu, methu cwrdd â’u ffrindiau yn yr eglwys ac yn gwybod ei fod wedi gau, a nawr roedd ganddi ddiagnosis o ddementia.
Wrth i amser fynd heibio yn ystod y cyfnod clo, roedd hi’n amlwg fod mam yn methu ymdopi. Do, mi wnaeth teulu a ffrindiau ffonio, a byddwn i’n mynd allan am dro gyda hi, ond roedd yr ynysigrwydd yn effeithio arni. Roeddwn i’n poeni byddai ei chyflwr hi’n gwaethygu’n gyflym heb gyfleoedd i gyfathrebu a chymdeithasu.
Roeddwn innau’n gwmni iddi, ac roeddwn ni’n chwarae Scrabble, cardiau a gemau eraill gyda hi, a byddai mam yn cadw’n brysur gyda phosau, ond roedd ein sgyrsiau’n undonog. Mae gan bobl o bob oedran stori i’w rhannu, ond roeddwn i wedi clywed straeon mam dro ar ôl thro. Roedd ein sgyrsiau erbyn hyn yn ymwneud â phethau ymarferol a threfniadau bob dydd.
Cysylltes i â gweithiwr cymdeithasol o’r clinig cof lleol, a gofynnais am gefnogaeth a chymorth addas.
Eu cyngor oedd cysylltu gyda thîm cyfeillio Age Cymru.
Wedi’r alwad gyntaf, roedd mam yn edrych ‘mlaen at ei galwadau ffôn gyda’r gwirfoddolwr. Roedd hi’n betrusgar ar y dechrau, ac yn gofyn ‘Pam mae’r fenyw hyn yn fy ffonio?’ a ‘Pwy yw hi, a beth mae hi eisiau?’, ond ar ôl i mi egluro iddi sawl gwaith fy mod i wedi trefnu’r galwadau er mwyn iddi gael cyfle i siarad gyda rhywun arall, gwnaeth hi dderbyn y peth a dechreuodd edrych ymlaen at y galwadau.
Wrth i mam ddod i’r arfer â’i gwirfoddolwr, dechreuodd berthynas ffurfio rhyngddynt. Ymhen amser, gan wybod bod rhywun yn ei galw, byddai mam yn paratoi ei hun, yn eistedd ac yn aros i glywed y ffôn yn canu; roedd hi’n edrych ymlaen at y peth yn fawr.
Doeddwn i ddim yn amharu ar y galwadau nac yn gwrando arnynt, ond byddwn i’n clywed darnau o’r sgyrsiau pan fyddwn i’n mynd i wneud paned o de. Un tro, dwi’n cofio mam yn adrodd stori am ei theulu a’i rhieni. Buodd hi’n sôn am y rhyfel, gan ddweud bod ei thad wedi symud y teulu i fyw’n agosach at yr eglwys, oherwydd roedd yn gwybod na fyddai’r gelyn yn gollwng bomiau ar yr eglwys oherwydd ei fod yn adeilad pwysig. Roeddwn i’n hynod o falch i’w chlywed, oherwydd roedd mam yn cael cyfle i ddweud ei stori wrth rywun oedd eisiau ei chlywed hi. Roedd mam yn cael cyfle i ddefnyddio ei chof, ac roedd yr atgofion yn fyw yn ei meddwl.
Bu sawl galwad arall fel hyn, straeon am aelodau eraill o’r teulu, a’i phrofiadau, ac roeddwn i’n teimlo’n fodlon iawn. Roeddwn i’n teimlo braidd yn hunanol bod ganddi rywun i siarad gyda heblaw fi.
Oherwydd anableddau mam, roedd hi’n ddibynnol arnaf, a fi oedd ei gofalwr llawn amser. Roedd y gwasanaethau cymdeithasol a’r asiantaeth ofal yn ein cefnogi gan helpu mam i ymolchi, ac roedd rhywun yn eistedd gyda hi ddwywaith bob wythnos er mwyn i mi fynd allan i siopa a mwynhau paned o goffi. Roeddwn i hefyd yn medru mynd allan i arddio am gyfnodau bach.
Wrth i amser fynd heibio, gwaethygu gwnaeth cyflwr mam, a gwaethygu gwnaeth ei hiechyd meddwl. Roedd mam yn ail-adrodd eu brawddegau, roedd hi’n ansicr o’i hun a’r gofod o’i chwmpas, ac roedd hi’n galw amdanaf.
Rydyn ni oll ar ein gwaethaf pan rydyn ni’n hel meddyliau. Mae ein gallu i ‘fecso’ a ‘gofidio’ ar ei orau pan rydyn ni’n llonydd, yn dawel a heb ddim i’n diddanu. Roeddwn i’n ceisio trefnu rhyw weithgaredd i mam bob dydd.
Felly pan fyddai mam yn derbyn ei galwad wythnosol, roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n cael ei diddanu, ac roedd yn gyfle i mi gwblhau tasgau eraill. I fod yn deg, roedd y galwadau yn gyfle i mi gael seibiant, ac roeddwn i’n eu croesawu.
Nid ydyn ni’n gwerthfawrogi’r cyfleoedd sydd gennym ni i gysylltu â chyfathrebu gyda phobl eraill, tu hwnt i weiddi ‘diolch’ at yrrwr y bws, sgwrs fer gyda gweithiwr siop wrth y til, a chlonc gyda theulu a ffrindiau dros baned. Mae’r sgyrsiau hyn yn digwydd yn ddigon rheolaidd yn ein bywydau.
Ond os nad yw hi’n bosib i ni gyfathrebu fel hyn, a chael cyfle i fwynhau cwmni ein gilydd, rydyn ni’n wynebu problemau a heriau emosiynol anodd. Er enghraifft, problemau’n ymwneud â hunan-werth a boddhad, ynghyd a hyder a chryfder emosiynol, sy’n bwysig ar gyfer ein lles emosiynol a’n gallu i weithredu.
Mae cysylltiad, y gallu i gyfathrebu, a sgwrsio ag eraill yn hollbwysig.
Rydw i’n dyst i bwysigrwydd cyswllt ystyrlon a rheolaidd, ac rydw i wedi elwa o saib tra bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu. Rydw i’n hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth a’r gwasanaeth mae Age Cymru yn ei chynnig. Ni ddylid bychanu gwerth gwaith y tîm a’r gwirfoddolwyr, a’r gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu i bobl sy’n methu gadael eu cartrefi i fynd allan i gymdeithasu.
Diolch o galon am fod yno i ni.