Lynn's stori
Mae Lynn yn fenyw 67 oed sy’n byw ar gyrion Caerdydd. Cysylltodd ag Age Cymru oherwydd ei bod hi’n teimlo’n unig, ac yn chwilio am gefnogaeth a chwmni. Gwrandawodd ymgynghorwr Age Cymru ar bryderon Lynn a gwnaethant atgyfeiriad at brosiect cynorthwyo cymunedol er mwyn i Lynn gael cefnogaeth gan wirfoddolwr lleol. Yn anffodus, pan ddaeth y prosiect i ben, roedd Lynn ar ei phen ei hun unwaith eto. Felly, aeth yr ymgynghorwr ati i gysylltu â Lynn er mwyn trafod opsiynau gwahanol.
Soniodd yr ymgynghorwr am ein gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, Ffrind Mewn Angen. Mae’n rhaglen sydd wedi ei chreu ar gyfer pobl hŷn sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig. Mae’r gwasanaeth yn eu paru gyda gwirfoddolwyr hyfforddedig sy’n rhoi galwad ffôn iddyn nhw bob wythnos gan ddarparu cyfle i sgwrsio ac ychydig o gwmni. Roedd Lynn wrth ei bodd gan y cyfle, ac roedd hi’n awyddus i ddechrau. “Dyma ddechrau! Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud yn anhygoel. Rydw i eisiau ymdrechu. Dydw i ddim yn fethiant, rydw i eisiau bod yn rhan o rywbeth. Rydw i eisiau cael fy nerbyn. Rydw i eisiau teimlo fel fi unwaith eto. Diolch o galon i chi am eich holl garedigrwydd, diolch am wrando arnaf”.
Yn hwyrach yn ystod y dydd, cysylltodd Swyddog Cefnogaeth o’r gwasanaeth Ffrind Mewn Angen gyda Lynn. Roedd hi’n gwerthfawrogi’r alwad, ac yn teimlo bod rhywun wedi gwrando arni a’i bod hi’n cael ei gwerthfawrogi. Bu Lynn yn sôn am ei hun a’i diddordebau er mwyn dod o hyd i wirfoddolwr addas. Er nad oedd gwirfoddolwr ar gael ar unwaith oherwydd galw aruthrol, ffoniodd y Swyddog Cefnogaeth Lynn bob wythnos er mwyn cael sgwrs gyflym tan fod gwirfoddolwr ar gael.
Wedi pythefnos, dywedodd y Swyddog Cefnogaeth wrth Lynn bod gwirfoddolwr yn barod i sgwrsio gyda hi, a’i enw oedd Mike. Soniodd y Swyddog am ddiddordebau a chefndir Mike, a chadarnhaodd bod Lynn yn hapus gyda’r drefn. Trefnwyd amserlen ar gyfer y galwadau wythnosol. Ar y dechrau, roedd Lynn yn teimlo’n emosiynol yn ystod y galwadau, ac roedd hi’n crio’n aml. Ond wrth i amser fynd heibio, daeth hi’n fwy cyffyrddus. Wedi trydydd galwad Mike, cysylltodd y Swyddog Cefnogaeth gyda Lynn, a dywedodd hi ei bod hi wrth ei bodd gyda’r galwadau, gan nodi bod cyfeillgarwch wedi datblygu rhyngddi a Mike.
Dywedodd Mike:
“Ers i mi ddechrau ffonio Lynn, mae ei hwyliau hi wedi gwella dipyn. Mae hi’n dweud ei bod hi’n mwynhau ein galwadau, a dydy hi ddim yn crio bellach. Mae hi’n aml yn dweud ei bod hi’n anhwylus ar ddechrau’r galwadau, ond mae hi’n teimlo dipyn yn well erbyn diwedd y galwadau. Dyna yw effaith y cynllun Ffrind Mewn Angen ar bobl ynysig.”
Wrth i’r gwasanaeth Ffrind Mewn Angen ehangu, ymunodd gwirfoddolwr newydd â’r tîm. Er mwyn ei chefnogi gyda’i rôl newydd, parodd y Swyddog Cefnogaeth hi gyda Lynn er mwyn cynnal ail alwad gyfeillgarwch wythnosol. Meddai hi:
“Rydw i’n sicr wedi sylwi bod Lynn wedi newid ers i mi ddechrau ei ffonio bob wythnos. Roedd Lynn yn emosiynol iawn yn ystod y sesiwn gyntaf oherwydd ei bod hi’n sôn am yr heriau sy’n ei hwynebu. Ers hynny, mae gan Lynn agwedd gadarnhaol iawn yn ystod y galwadau, ac mae hi’n siarad am sawl elfen o’i bywyd. Mae’n amlwg bod Lynn yn teimlo llawer yn well ar ddiwedd bob galwad, oherwydd ei bod hi’n dweud ar ddechrau’r alwad ei bod hi wedi cael wythnos anodd, ond erbyn i ni orffen mae hi’n siarad yn fwy llawen. Ar ddiwedd pob galwad mae Lynn yn hynod o ddiolchgar am yr alwad, ac mae hi’n sôn am faint mae hi’n mwynhau sgwrsio gyda fi bob wythnos.
Yn bersonol, rydw i wrth fy modd yn siarad gyda Lynn. Rydw i’n mwynhau clywed am ei bywyd, mae ganddi ddiddordeb yn fy mywyd i a beth rydw i wedi ei ddysgu yn y brifysgol yn ystod yr wythnos. Bob wythnos rydyn ni’n sgwrsio’n hawdd ac mae gennym ni ddigon i’w drafod bob tro.”
Mae Lynn yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth Age Cymru. Meddai hi:
“Cysylltais ag Age Cymru oherwydd roeddwn i’n teimlo’n hynod o ddiflas ac isel fy ysbryd. Roeddwn i angen help, a siaradais gyda dyn clên iawn o’r enw Simon. Gwrandawodd ar fy mhroblemau, ac roedd yn gymwynasgar iawn wrth fy nghynghori mewn ffyrdd gwahanol, yn cynnwys fy atgyfeirio at wasanaeth cyfeillio dros y ffôn.
Cefais alwad ffôn wrth Fiona wedi i mi siarad gyda Simon, ar yr un diwrnod. Roedd hynny’n wych oherwydd roedd y sgwrs ar flaen fy meddwl. Gofynnodd Fiona am fy manylion a holodd am fy niddordebau, pryd hoffen i dderbyn galwadau, a dywedodd y byddwn yn derbyn galwadau wythnosol cyn gynted â phosib. Clywais gan Fiona’n wythnosol, ac o fewn pythefnos dysgais y byddwn yn derbyn fy ngalwad gyfeillgarwch gyntaf.
Rydw i’n edrych ymlaen at y galwadau’n ofnadwy. Mae’r ffôn yn canu ar yr un pryd bob wythnos, ac os nad ydyn nhw’n medru galw mae Fiona’n rhoi gwybod i mi.
Ar ddechrau’r sgwrs maen nhw’n dweud, dewch i mi gwyno am ddwy funud – wedyn fyddwn ni’n medru canolbwyntio ar fwynhau sgwrs ddiddorol.
Rydw i’n hynod o ffodus bod dyn hŷn a menyw ifanc yn fy ffonio oherwydd eu bod nhw’n medru fy niweddaru am beth sy’n digwydd yn y byd – rydw i’n dysgu am TikTok a Facebook. Rydw i’n dysgu rhywbeth newydd bob wythnos.
Dydw i byth eisiau’r galwadau i ddod i ben – mae’r amser yn hedfan. Rydw i’n gwerthfawrogi eu bod nhw’n rhoi eu hamser ac yn barod i wrando arnaf yn cwyno a cheintachu, ond rydyn ni’n llwyddo i chwerthin hefyd.
Pan wnes i ddechrau derbyn galwadau roeddwn i’n teimlo’n emosiynol. Roeddwn i wedi cynhyrfu wedi’r alwad gyntaf, a ffoniodd Fiona er mwyn gwneud yn siŵr fy mod i’n iawn. Wir, roedd popeth yn iawn, ond roedd gwybod bod rhywun yn barod i wrando arnaf yn rhywbeth aruthrol. Roedden nhw hyd yn oed yn poeni digon amdanaf i ffonio Fiona a rhannu eu pryderon.
Pan mae’r alwad yn dod i ben rydw i’n teimlo’n eithaf trist – dydy fy nheulu i ddim yn siarad â fi, ac rydw i’n dibynnu ar y gwasanaeth gyfeillio. Ond diolch byth am Ffrind Mewn Angen, ac am wasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Age Cymru – rydych chi’n fendith, mae’n wych i wybod bod rhywun yn poeni amdanaf.”
Wedi mis o dderbyn galwadau wrth wirfoddolwyr Ffrind Mewn Angen, mae Lynn yn teimlo bod ei hwyl a’i hiechyd meddwl wedi gwella. Mae hi hyd yn oed yn bwriadu gwirfoddoli ei hun:
“Gobeithiaf y byddaf yn parhau i deimlo’n well, a hoffwn hyd yn oed wirfoddoli gyda Ffrind Mewn Angen un dydd.”