Apêl blwch rhodd
Diolch yn fawr i bawb ohonoch wnaeth gymryd rhan yn ein Hapêl Rhodd Nadolig. Bydd pob bocs yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl hŷn dros gyfnod y Nadolig.
Os na lwyddoch chi gymryd rhan yn yr ymgyrch, ond rydych chi’n awyddus i’n cefnogi, gallwch wneud rhodd i’n hymgyrch sy'n cefnogi pobl hŷn dros y Nadolig.
I nifer o bobl hŷn sy’n teimlo’n unig, yn angof, neu sydd ar eu pen eu hun, mae Partneriaeth Age Cymru’n achubiaeth.
Drwy ein gwasanaethau cyngor, rydyn ni’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bobl hŷn unig er mwyn eu helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd.
Drwy ein gwasanaethau cyfeillgarwch, rydyn ni’n cynnig cysylltiadau, clust i wrando a llais cyfeillgar i bobl hŷn, unig.
Ni allwn gyflawni hyn ar ein pen ein hun. Mae angen eich cefnogaeth ar Bartneriaeth Age Cymru er mwyn creu newid go iawn i bobl hŷn, unig yn ystod cyfnod anodd.
Rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Cyfrannwch os gwelwch yn dda