Skip to content
Cyfrannwch

Cydlynydd Gwirfoddolwyr - HOPE – Gogledd a Chanolbarth Cymru

Teilt y Swydd: Cydlynydd Gwirfoddolwyr – Rhan Amser
Categori’r Swydd: Age Cymru – Prosiect HOPE
Lleoliad: Gogledd a Chanolbarth Cymru
Cyflog: £21,648 (CALl £27,060)
Math o gytundeb: Cytundeb Tymor Penodol hyd at 31/3/26 - 28 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 21 Chwefror 2025

Allwch chi ein helpu ni i wneud Cymru'n lle gwych i heneiddio? Helpwch i gyflawni amcanion prosiect HOPE drwy recriwtio gwirfoddolwyr addas o fewn y rhanbarth i ddarparu cymorth eiriolaeth ar lefel gymunedol ac i gefnogi a goruchwylio sefydlu a rhedeg rhwydwaith gwirfoddolwyr eiriolaeth rhanbarthol, gan weithio'n agos ac ar y cyd â phartneriaid Age Connects ac Age Cymru lleol.

Mae angen bod gennych chi y gallu i:

  • Reoli tîm o wirfoddolwyr yn llwyddiannus i gyflawni canlyniadau prosiect.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu o safon uchel (ar lafar ac yn ysgrifenedig) gyda'r gallu i ddefnyddio'r rhain ar gyfer datblygu partneriaethau, trafod a dylanwadu.
  • Meddwl yn greadigol a chynhyrchu a datblygu arloesedd yn y rôl hon.
  • Defnyddio eich menter eich hun.
  • Rheoli eich hun ac eraill.
  • Ysbrydoli ac ysgogi eraill.
  • Goruchwylio trefnu gwaith o'r cynllun i'w gyflawni.
  • Gwneud defnydd cost-effeithiol o adnoddau cyfyngedig.
  • Addasu i amgylchiadau sy'n newid, aml-dasg a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar flaenoriaethau a gofynion newydd
  • Blaenoriaethu gwaith a delio â gofynion/anghenion a diddordebau cystadleuol neu sy'n gwrthdaro.
  • Hyrwyddo nodau ac amcanion y rhaglen.
  • Dangos sgiliau llythrennedd TG gan gynnwys rheoli data

Mi fyddai’n dda petai gennych:

  • Y gallu i siarad Cymraeg (Dymunol)

Beth rydyn ni’n ei gynnig

  • Gwyliau – cyfanswm o 27 diwrnod sydd yn cynnwys 24 dydd o’ch dewis chi a 3 dydd i’w defnyddio rhwng Nadolig a’r flwyddyn newydd – yn cynnwys cario ymlaen
  • Cynllun Oriau Gwaith Hyblyg
  • Pensiwn cyflogwr
  • Yswiriant bywyd hael hyd at pedwar gwaith eich cyflog blynyddol
  • Cynllun taliad arian yn ôl gofal iechyd.

Sut ydw i’n ymgeisio ar gyfer y swydd hon?

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf ar gyfer y swydd hon a pham yr hoffech weithio i Age Cymru. Ni fyddwn yn ystyried eich cais heb lythyr eglurhaol.

E-bostiwch eich CV a’r llythyr eglurhaol at hr@agecymru.org.uk

Disgrifiad swydd

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Age Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac rydyn ni’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys ac addas, ta waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, statws priodasol/partneriaeth sifil, os ydynt yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau ar gyfer gweithio’n hyblyg.

Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion a phlant sydd yn agored i niwed ac esgeulustod. Rydyn ni’n disgwyl bod pawb sydd yn gweithio i ni’n rhannu’r ymrwymiad hwn.

Rydyn ni’n eich annog i ymgeisio’n gynnar oherwydd rydyn ni’n cadw llygad ar geisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu, ac mae gennym hawl i gau’r hysbyseb ar unrhyw bryd.

Nid yw Age Cymru yn derbyn cyswllt gan asiantaethau recriwtio na chyfryngau gwerthu. Dydyn ni ddim yn derbyn CVs ar hap gan asiantaethau recriwtio a dydyn ni ddim yn derbyn y tâl sydd yn gysylltiedig â nhw.

Age Cymru yw'r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru ac rydyn ni yma pan mae ein hangen fwyaf. Trwy ymchwil ac ymgyrchoedd, cynnig gwybodaeth a chyngor, darparu eiriolaeth annibynnol (trwy ein Prosiect HOPE ac eiriolaeth Dementia) a rhaglenni llesiant, rydym wir yn poeni am gefnogi pobl hŷn i fyw bywyd bodlon.

 

Last updated: Ion 28 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top