Skip to content
Cyfrannwch

Sefydliadau cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn

Mae'r Tîm Ymgysylltu yn gweithio gyda nifer o sefydliadau cenedlaethol pobl hŷn, gan ddarparu cymorth ysgrifenyddiaeth:

Fforwm Pobl Hŷn Cymru

Fforwm cenedlaethol o bobl hŷn yw Fforwm Pobl Hŷn Cymru. Mae’r Fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol sefydliadau pensiynwyr cenedlaethol, yn ogystal â grwpiau pobl hŷn. Amcanion y Fforwm yw:

  • cydweithio er lles pob pensiynwr yng Nghymru
  • sicrhau bod cydraddoldeb, urddas a pharch yn rhan o heneiddio gwella ansawdd bywyd pobl yn hwyrach yn eu bywydau.

Os hoffech gysylltu â Fforwm Pobl Hŷn Cymru anfonwch e-bost at kathy.lye@agecymru.org.uk

Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol (NPC) Cymru

Mae'r Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol yn sefydliad ymbarél sy'n cynnwys sefydliadau cysylltiedig a chefnogwyr unigol. Mae NPC UK yn cynnwys nifer o ranbarthau ac mae Cymru'n un ohonynt. Mae gan NPC Cymru gysylltiadau gydag undebau, grwpiau sy'n cynnwys aelodau sydd eisoes wedi ymddeol, ac unigolion sy'n pryderu am les pensiynwyr.

Gallwch lawrlwytho ffurflen i gysylltu â NPC Cymru fel grŵp neu fel unigolyn wrth ymweld â’u gwefan www.npcwales.org

Os hoffech gysylltu â NPC Cymru anfonwch e-bost at npc@agecymru.org.uk

Cymru Bywiog : Ymddeol o'r Gwaith, nid o Fywyd

Cymru Bywiog yw'r enw newydd ar y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Pensiynwyr Hŷn Cymru. Nhw yw'r sefydliad pensiynwyr gwirfoddol mwyaf a hynaf yng Nghymru, a sefydlwyd yn 1939. Sefydliad ymgyrchol yw Cymru Bywiog yn bennaf, ac mae'n ymdrechu i wella ansawdd bywyd pob pensiynwr.

Os hoffech gysylltu â Cymru Bywiog anfonwch e-bost at activewales@gmail.com

Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA)

Mae COPA yn elusen sy'n cael ei chynnal gan bobl hŷn ar gyfer pobl hŷn. Prif bwrpas COPA yw sicrhau bod fforymau a grwpiau pobl hŷn ar lefel leol yn medru trosglwyddo eu neges i lefel genedlaethol. Mae COPA yn sicrhau bod safbwyntiau pobl hŷn yn cael eu nodi gan Lywodraeth Cymru ac amryw o gyrff cyhoeddus eraill.

Ewch i wefan COPA

 

Last updated: Medi 06 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top