Skip to content
Cyfrannwch

Llawlyfr Adnoddau Fforwm

Gall fforymau pobl hŷn ddylanwadu ar ystod eang o faterion yn eu cymunedau. Rydym yn annog pobl hŷn i ddatblygu fforymau fel ffordd o rannu barn, datblygu agendâu lleol a siapio sut mae cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd.

Mae Age Cymru wedi datblygu Llawlyfr Adnoddau Fforwm i helpu fforymau a grwpiau i ddatblygu a thyfu. Mae'r Llawlyfr yn edrych ar gefndir mudiad y fforwm, yn darparu gwybodaeth a chyngor ar sut i sefydlu a rhedeg fforwm llwyddiannus, yn cynnig arweiniad ar sut i ymgyrchu, yn rhoi cyngor ar gyhoeddusrwydd, a sut i ymgysylltu â gwleidyddion.

Gallwch lawrlwytho copi o'r Llawlyfr Adnoddau Fforwm yma neu os byddai'n well gennych gael copi caled, ffoniwch Kathy Lye ar 029 2043 1555 neu e-bostiwch kathy.lye@agecymru.org.uk

Llawlyfr Adnoddau Fforwm

 

Last updated: Chw 29 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top